Headline
Sponsor
JOIN THE FLIGHT

S4C the “leading broadcaster of Welsh rugby”

S4C’s Chief Executive says the channel is the “leading broadcaster of Welsh rugby”, as the channel unveils its presentation team for its flagship rugby series ahead of the new season.

The broadcaster recently acquired rights to show Guinness PRO14 matches in Welsh for the next three seasons. The new agreement means that S4C is the only ever-present broadcaster since the inception of the Celtic League in 2001.

A total of 17 live Guinness PRO14 matches will be shown during the season, including Christmas and New Year derby matches and, should a Welsh region be involved, live coverage of the Guinness PRO14 final. Further coverage will also be available on an as-live basis. Matches will be broadcast live on television and online via S4C Clic which includes exclusive 35 day catch up. BBC Wales will continue to produce Clwb Rygbi on S4C’s behalf.

The continuing coverage of the Guinness PRO14 is part of S4C’s extensive and ever-growing rugby portfolio, showing rugby at all levels: from college and regional youth rugby, to age-grade international matches, to Principality Premiership and domestic cup competitions, to international matches from the Wales men’s and women’s teams.

Owen Evans, S4C Chief Executive, said: "Rugby is part of the fabric of life in Wales and our passionate country is well-known across the globe as one of the game’s main exponents. S4C are proud supporters of Welsh rugby at every level and we offer an unrivalled portfolio as a leading broadcaster of Welsh rugby. 

"The Guinness PRO14 is the main battleground for our four Welsh regions, and I am delighted that as a Welsh broadcaster, we are able to offer free-to-air coverage of one of the world’s leading rugby competitions. As a broadcaster who has been there since the Celtic League began, viewers know that they will be in safe hands with our Guinness PRO14 coverage." 

Gareth Rhys Owen will lead the Clwb Rygbi presentation team alongside pitchside reporter Catrin Heledd, with the professional and experienced voices of Gareth Charles and former Wales captain Gwyn Jones providing commentary. Among the pundits will be former Wales internationals Nicky Robinson, Andrew Coombs, Dafydd Jones, Deiniol Jones, Caryl James and Wales full-back Dyddgu Hywel. 

The presenting line-up will be introduced to the press during S4C’s Clwb Rygbi launch at the home of Welsh rugby, the Principality Stadium, on Thursday afternoon, 16 August.

Clwb Rygbi anchor presenter, Gareth Rhys Owen, said: "The Guinness PRO14 is one of the most exciting rugby leagues in the world and I’m looking forward to bringing fans all of the drama on Clwb Rygbi. We’ll have the match action, discussion and analysis from our presenters and distinguished panel as we watch the teams battle it out in what is certain to be a thrilling competition.”

Martin Anayi, CEO of PRO14 Rugby, said: “From the very beginning in 2001 S4C have been on the journey with us as a Championship that has seen many great moments, including six titles for the Welsh regions and an incredible evolution in the shape of the Guinness PRO14.

“To maintain that relationship is worth a great deal for everyone involved in the tournament, Welsh rugby and indeed, S4C. To provide Free-To-Air coverage with Welsh language commentary was a key goal for us when setting out our ambitions for the next three years and we hope the Welsh rugby public are just as excited about that.

“The Guinness PRO14 is a very different beast to what it was 17 years ago when the Championship took its first steps, as the tournament has grown S4C have been there every step of the way and we’re delighted they will be working with us as we write the next exciting chapter.”

September Fixtures:

01/09: Ulster v Scarlets - 5.00 (Live)
02/09: Cardiff Blues v Leinster – 4.15 (As Live)
08/09: Ospreys v Cheetahs – 5.15 (Live) 
09/09: Scarlets v Leinster – 4.15 (As Live) 
15/09: Scarlets v Benetton – 5.00 (Live)
16/09: Munster v Ospreys - 4.15 (As Live)
22/09: Dragons v Zebre - 5.00 (Live)
23/09: Cardiff Blues v Munster – 4.15 (As Live) 
29/09: Scarlets v Southern Kings - 6.15 (Live)
30/09: Blues v Cheetahs – 3.45 (As Live) 

How to watch S4C:
S4C is available in Wales on: Freeview -4, Virgin TV -166, Freesat -104, Sky -104
Outside Wales on: Virgin TV -166, Freesat -120, Sky -134 
Watch live and on demand for 35 days exclusively via S4C Clic; online or on the app.
 

___________________________________ 

S4C yn "arwain y gad" ar ddarlledu rygbi yng Nghymru

Mae Prif Weithredwr S4C yn falch fod y sianel yn ‘arwain y gad fel darlledwr rygbi yng Nghymru’, wrth i S4C gyhoeddi’r tîm cyflwyno ar gyfer ei phrif raglen rygbi cyn y tymor newydd.

Y mis diwethaf, cyhoeddwyd fod S4C wedi ennill yr hawl i ddangos rygbi Guinness PRO14 am y tair blynedd nesaf. Mae’r cytundeb newydd yn golygu mai S4C yw’r unig ddarlledwr sydd wedi dangos gemau’r gynghrair bob tymor ers iddi ffurfio yn 2001.

Bydd 17 o gemau tymor 2018/19 yn fyw ar S4C, sy’n cynnwys gemau darbi dros gyfnod y Nadolig a’r Calan ac os yw rhanbarth o Gymru yn cyrraedd y rownd derfynol mi fydd y gêm fawr honno hefyd yn fyw ar S4C. Mi fydd gemau eraill hefyd yn cael eu dangos yn llawn, ond nid yn fyw. Bydd BBC Cymru yn parhau i gynhyrchu Clwb Rygbi ar ran S4C.

Mae’r cytundeb gyda’r Guinness PRO14 yn hwb gwerthfawr i ddarpariaeth rygbi cynhwysfawr y sianel, sy’n cynnwys rygbi ar bob rheng: o gynghrair y colegau a rygbi ieuenctid rhanbarthol, i gemau Uwch Gynghrair y Principality a’r cwpanau cenedlaethol, a gemau rhyngwladol ieuenctid, merched a dynion Cymru.

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Mae rygbi yn rhan o hunaniaeth Cymru ac mae ein gwlad angerddol ni yn cael ei hadnabod fel un o brif lysgenhadon y gamp. Mae S4C yn gefnogwyr triw i rygbi ar bob lefel yng Nghymru ac rydym yn arwain y gad wrth gynnig amrywiaeth eang, heb-ei-ail.

"Y Guinness PRO14 yw bara menyn y pedwar rhanbarth yng Nghymru ac rydw i’n falch iawn ein bod ni’n dangos gemau o un o brif #gystadlaethau rygbi’r byd, yn rhad-ac-am-ddim ar S4C. Fel darlledwr sydd wedi bod yno ers i’r gynghrair gael ei sefydlu yn 2001 mae gwylwyr yn gwybod eu bod nhw mewn dwylo diogel wrth wylio’r Guinness PRO14 ar S4C."

Gareth Rhys Owen fydd yn arwain tîm cyflwyno cyfres y Clwb Rygbi, gyda Catrin Heledd yn gohebu ar yr ystlys, a’r lleisiau profiadol ac adnabyddus, Gareth Charles a chyn-gapten Cymru Gwyn Jones yn sylwebu. Ymysg y tîm fydd yn trin a thrafod bydd y cyn chwaraewyr rhyngwladol, Nicky Robinson, Andrew Coombs, Dafydd Jones, Deiniol Jones, Caryl James a chefnwr Cymru, Dyddgu Hywel.

Fe fydd y tîm yn cael ei gyflwyno i’r wasg yn ystod lansiad Clwb Rygbi yng nghartref rygbi Cymru, y Stadiwm Principality, ar brynhawn dydd Iau 16 Awst.

Dywedodd Gareth Rhys Owen, cyflwynydd Clwb Rygbi; "Y Guinness PRO14 yw un o brif gynghreiriau rygbi’r byd ac rydw i’n edrych ymlaen at allu dangos yr holl gyffro fel rhan o dîm Clwb Rygbi. Fe fydd ein panel gwybodus yn dadansoddi’r gemau ac yn trafod yr holl bynciau dadleuol, wrth i ni wylio’r timau’n brwydro ar gyfer tymor arall o rygbi cyffrous."

Dywedodd Martin Anayi, Prif Weithredwr Rygbi PRO14; "O’r cychwyn gyntaf yn 2001, mae S4C wedi bod yn rhan o’r daith gyda’r gynghrair ac wedi darlledu sawl digwyddiad bythgofiadwy, gan gynnwys chwe phencampwriaeth i ranbarthau Cymru, ac wedi dilyn datblygiad anhygoel y gynghrair.

"Mae gallu cynnal y berthynas yma rhwng y gynghrair a’r sianel yn werthfawr iawn i bawb, yn cynnwys rygbi Cymru ac wrth gwrs, S4C. Roedd gallu dangos rygbi am ddim gyda sylwebaeth Gymraeg yn bwysig iawn i ni wrth osod ein huchelgais ar gyfer y tair blynedd nesaf, a dw i’n gobeithio fod cefnogwyr rygbi Cymru yn edrych ymlaen at hynny.

"Mae’r Guinness PRO14 yn wahanol iawn i’r gystadleuaeth a gychwynnodd 17 mlynedd yn ôl, ac wrth iddi dyfu, mae S4C wedi bod yno bob cam o’r ffordd. Rydw i’n falch iawn ein bod ni’n parhau i weithio gyda S4C wrth i’r Guinness PRO14 symud tuag at bennod newydd a chyffrous yn ei hanes."

01/09: Ulster v Scarlets - 5.00 (Yn Fyw)
02/09: Gleision Caerdydd v Leinster – 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
08/09: Gweilch v Cheetahs – 5.15 (Yn Fyw)
09/09: Scarlets v Leinster – 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
15/09: Scarlets v Benetton – 5.00 (Yn Fyw)
16/09: Munster v Gweilch - 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
22/09: Dreigiau v Zebre - 5.00 (Yn Fyw)
23/09: Cardiff Blues v Munster – 4.15 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)
29/09: Scarlets v Southern Kings - 6.15 (Yn Fyw)
30/09: Gleision Caerdydd v Cheetahs – 3.45 (Ail-ddarllediad gêm gyfan)

Sut i wylio S4C:
Mae S4C ar gael ar: Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru
Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166 yn Lloegr, tu allan i Gymru
Yn fyw ar-lein ac ar alw am 35 diwrnod drwy S4C Clic; ar-lein neu thrwy ddefnyddio’r ap

 
OFFICIAL SPONSORS
Would you like to be part of our success? FIND OUT MORE
Headline Sponsor
Primary Partners